English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Cymorth gan materion tai 

Pethau sydd angen ichi wybod...os hoffech chi gael cymorth o ran mater tai.

Does dim digon o dai cyngor a thai cymdeithasau tai ar gael i bawb.

Yn sgil prinder tai yn Sir Gaerfyrddin, ni allwn gynnig tŷ i bawb sydd â phroblem o ran cael tŷ ond gallwn ni weithio gyda chi i weld a oes modd inni ddod o hyd i ateb arall.

A oes gwir angen i mi symud? A oes unrhyw ddewisiadau eraill ar gael i mi?

Mae nifer o ddewisiadau eraill a allai fod yn addas ichi, megis:

  • Tai Fforddiadwy sydd ar werth
  • Rhentu yn y Sector Preifat
  • Achub Morgeisi
  • Gwneud cais am grant addasiadau neu grant cyfleusterau i bobl anabl
  • Tai fforddiadwy i'w rhentu gyda'r dewis i brynu mewn 5 mlynedd 
  • Cyfnewid tŷ ag un o denantiaid eraill y cyngor neu denant cymdeithas dai
  • Cyfryngu 
  • Tai â Chymorth
  • Swyddog Iechyd yr Amgylchedd i arolygu eiddo er mwyn gwirio'i gyflwr
  • Cyngor ynghylch Budd-daliadau Tai
  • Cynllun Bond

Sut gallaf i ddarganfod pa ddewis sydd orau i mi?

Gallwch chi ddefnyddio'r offer hunanasesu ar-lein er mwyn darganfod ai gwneud cais am dŷ cyngor neu dŷ cymdeithas dai yw'r dewis cywir ichi.  Ni ddylai gymryd mwy na 15 munud i'w gwblhau, cliciwch ar y ddolen isod:

Dolen fan hyn....

Os byddaf yn gwneud cais, a fyddaf i'n cael fy ailgartrefu?

Ni allwn warantu y byddwn ni'n cynnig tŷ ichi.

FFAITH

  • Mae oddeutu 8,000 o deuluoedd, parau a phobl sengl ar y gofrestr tai.
  • Rydym yn cynnig tŷ i oddeutu 900 o deuluoedd y flwyddyn.

Mae hyn yn golygu os byddwch chi'n ymuno â'r gofrestr tai, mae'n debygol y byddwch chi'n aros am amser hir cyn cael cynnig tŷ.

Os yw eich angen am dŷ yn fach, mae'n annhebygol y byddwch chi'n cael cynnig tŷ o gwbl.

Ym mhle mae'r tai cyngor a thai'r cymdeithasau tai sydd gennych?

Os hoffech gael manylion ynghylch:

  • Lleoliadau'r tai cyngor a thai'r cymdeithasau tai sydd gennym
  • Nifer y tai rydym ni wedi eu dyrannu mewn gwahanol ardaloedd yn y Sir
  • Nifer y bobl eraill sy'n aros i gael tŷ

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch chi edrych ar ein gwefan newydd:

www.carmarthenshirehousing.co.uk
 

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 21/3/2012
 
Manylion Cysyllt
 

Swyddog Prosiect Dewisiadau Tai
Ty Elwyn
Llanelli
Sir Gaerfyrddin
SA15 3AP

Mae ein swyddfeydd a'n llinellau ffôn ar agor o:

8.45am i 5pm Dydd Llun i Ddydd Iau; a
8.45am i 4.30pm ar Ddydd Gwener

Ffon o fewn oriau gwasanaeth: 01554 742231
Facs: 01554 742192

E-bost: RParkinson@sirgar.gov.uk

Negeseuon testun: 07766 406506
Gwasanaeth Minicom: 01267 223867