English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 15/12/2011
Dewisiadau Tai a Digartrefedd 

Os oes gennych chi broblem dai mae'n bosibl y byddwn yn gallu eich helpu.

Pa un a ydych yn berchen ar dŷ, yn denant preifat neu'n denant mewn tŷ cyngor neu dŷ cymdeithas dai, os ydych chi'n cael anawsterau cysylltwch â'ch timau ailgartrefu rhanbarthol.

Mae'r adrannau canlynol yn rhoi gwybodaeth ichi am y cymorth a'r gefnogaeth y gallwn ni eu cynnig. Er mwyn sicrhau bod ein cymorth yn effeithiol, mae'n bwysig eich bod yn ceisio cyngor cyn gynted â phosibl.

Byddwn yn rhoi cyngor a chymorth i'ch helpu i aros yn eich cartref presennol lle bydd hyn yn bosibl ac yn briodol.

Yn ogystal, byddwn yn eich helpu i ystyried yr holl ddewisiadau tai sydd ar gael ichi os oes angen ichi symud, os ydych chi ar fin cael eich troi allan o'ch tŷ neu os ydych chi'n ddigartref ar hyn o bryd.

Cofiwch, gorau po gyntaf yr ydych yn gweithredu. Os ydych chi'n cael cymorth yn gynnar, gall atal eich problem dai rhag mynd yn argyfwng.

 
Manylion Cysyllt
 

Rhif ffôn yn ystod oriau'r swyddfa:
Aman a Gwendraeth 01269 598213
Llanelli 01554 742350
Tywi, Teifi a Thaf Myrddin 01267 228603

Rhif ffôn y tu allan i oriau'r swyddfa: 01267 234567

E-bost: Tai@sirgar.gov.uk

Negeseuon testun: 07766 406506
Gwasanaeth Minicom: 01267 223867