Teimlo’n Dda Drwy Dai Iachach - Astudiaeth Effaith ar Iechyd
Crynodeb Byr o'r Camau a Gymerwyd
Health IMpact Report.pdf
• Rydym yn y broses o wella ein stoc tai i gyrraedd Safon Tai Sir Gaerfyrddin). Er mwyn deall y manteision iechyd i denantiaid a’r manteision i wasanaethau iechyd lleol, rydym wedi cychwyn ar astudiaeth effaith ar iechyd
• Credwn y gall problemau tai cyffredin gael effaith sylweddol ar iechyd y tenantiaid. Rhagwelir y bydd gwaith Safon Tai Sir Gaerfyrddin yn helpu i fynd i’r afael â’r problemau hyn ac yn helpu i wella iechyd.
• Buom yn gweithio'n agos â Phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe i ddatblygu'r prosiect. Mewn arolwg peilot a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2009, gwelwyd arwyddion clir o berthynas rhwng gwella tai a gwella iechyd:
Dangosodd yr astudiaeth beilot:
Gwelliant o ran Iechyd Meddwl – Nododd 21% o denantiaid mewn eiddo oedd heb eu gwella eu bod yn derbyn triniaeth iselder, o gymharu â dim ond 7% o’r tenantiaid sy’n byw mewn eiddo sydd wedi’u cwblhau.
Gwelliant o ran Heintiau Anadlol - Nododd 67% o denantiaid sy’n byw mewn eiddo sydd wedi’u cwblhau nad ydynt yn dioddef o haint anadlol megis peswch ac annwyd o gymharu â 52% sy’n byw mewn eiddo sydd heb eu gwella.~
Llai o bobl yn ymweld â’u meddyg teulu - Roedd 23% o’r ymatebwyr mewn eiddo sydd heb eu gwella wedi ymweld â’u meddyg teulu mwy na phedair gwaith mewn cyfnod o dri mis o gymharu ag 14% mewn eiddo sydd wedi’u cwblhau.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Datblygu’r Astudiaeth Ymhellach
Mae cynllun wedi’i baratoi sy’n amlinellu astudiaeth tymor hwy i geisio cynnig tystiolaeth bod:
• Gwaith Safon Tai Sir Gaerfyrddin yn fanteisiol i iechyd tenantiaid yn gyffredinol ac yn benodol bydd yn helpu iechyd meddwl, cardiofasgwlaidd ac anadlol.
• Mae i fuddsoddiadau mewn tai fuddion cost i wasanaethau iechyd lleol gan y bydd llai o ymweliadau â meddygon teulu a llai o dderbyniadau i’r ysbyty.
Bydd y dull a ddatblygwyd yn y cynllun peilot yn parhau i gael ei ddefnyddio. Bydd y dull yn cymharu iechyd tenantiaid ar wahanol gamau yn y gwaith gwella, hynny yw:
(1) eiddo sydd heb eu gwella lle nad yw gwaith y Safon Tai wedi'i ddechrau;
(2) eiddo sydd wedi’u cwblhau
(3) eiddo sydd wedi’u gwella yn rhannol lle mae rhywfaint o waith
Safon Tai Sir Gaerfyrddin wedi’i wneud.
Arolwg Blynyddol
Gan ddefnyddio’r dull hwn, caiff arolwg blynyddol o iechyd tenantiaid ei gynnal dros y pedair blynedd nesaf er mwyn canfod a fu unrhyw welliannau hirdymor. Bydd cam cyntaf y cynllun pedair blynedd hwn yn cychwyn ym mis Chwefror 2011.
Cyrchu Data Iechyd Lleol
Rhan bwysig o'r astudiaeth fydd clustnodi buddion cost posibl y rhaglen. Gwneir hyn drwy waith cyfochrog sy’n cynnwys adolygu gwir ddata defnydd y gwasanaeth iechyd sy’n berthnasol i’n stadau tai. Gwneir cymariaethau cyn ac ar ôl gwaith Safon Tai Sir Gaerfyrddin.
Bu Prifysgolion Caerdydd ac Abertawe yn llwyddiannus mewn cais am gyllid gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd i asesu effeithiau iechyd ac economaidd rhaglen Safon Tai Sir Gaerfyrddin o ran costau is i wasanaethau iechyd lleol.
Sut y bwriadwn Gyfathrebu?
Bwriadwn –
• Cwblhau adroddiadau cynnydd blynyddol
• Cychwyn ar newyddlen chwe-misol
• Lansio gwefan newydd er mwyn cyhoeddi cyngor a'r wybodaeth ddiweddaraf
• Cyflwyno llinell ffôn benodol a rhif er mwyn cysylltu â swyddogion allweddol
• Arddangos y prosiect mewn digwyddiadau lleol a chenedlaethol pan fo hynny’n briodol
Ariannwyd y prosiect hwn gan Raglen Ymchwil Iechyd y Cyhoedd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (rhif y prosiect: 09/3006/02). Barn a safbwyntiau’r awduron yw’r rhai a fynegir ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu barn a safbwyntiau Rhaglen Ymchwil Iechyd y Cyhoedd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd, na’r Adran Iechyd.