English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 13/11/2008
Cofrestr Gydgyfnewid Sir Gaerfyrddin  

Os ydych yn byw mewn tai cymdeithasol ar hyn o bryd ac yn dymuno cyfnewid eich cartref er mwyn byw mewn tŷ o wahanol faint neu mewn ardal wahanol, efallai mai Cydgyfnewid Cartref yw'r dewis gorau i chi.

Mae cydgyfnewid cartref yn caniatáu i denantiaid y Cyngor neu denantiaid Cymdeithas Tai gyfnewid eu cartref am gartref tenant arall. Mae'n rhaid i bob landlord gytuno cyn y gellir cyfnewid cartref.

Yn ddiweddar, rydym wedi dechrau cydweithio â HomeSwapper sy'n darparu cynllun cyfnewid cartref cenedlaethol ar y we.  Mae'n hawdd cofrestru gyda HomeSwapper drwy glicio ar y cyswllt uchod ac mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim i denantiaid Cyngor Sir Caerfyrddin a'r cymdeithasau tai sy'n bartneriaid inni.

Ar ôl ichi gofrestru, byddwch yn cael manylion am gartrefi posibl sy'n cyfateb, drwy e-bost neu ffôn symudol.  Yn ogystal, cedwir rhestr bapur o gartrefi posibl yn ein Canolfannau Gwasanaeth Cwsmeriaid yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli.

Posibiliadau o ran Cyfnewid eich Cartref

Pan fyddwch yn dod o hyd i dŷ y mae gennych ddiddordeb ynddo, mae angen ichi drefnu mynd i'w weld.

Os ydych yn dymuno mynd ati i gyfnewid cartrefi ar ôl gweld cartrefi’r naill a’r llall, y cam nesaf yw llenwi ffurflen cydgyfnewid cartref ar gyfer eich aelwyd.

Pwy all wneud cais am Gydgyfnewid Cartref?

Gall pob tenant tŷ Cyngor/Cymdeithas Tai â thenantiaethau diogel a'r rhan fwyaf o denantiaid Cymdeithas/Ymddiriedolaeth Tai â thenantiaethau sicr wneud cais am gyfnewid eu llety.

Yn anffodus, ni chaniateir cydgyfnewid â thenantiaid llety ar brydles neu'r rhai sy'n rhentu'n breifat.  Mae'n rhaid i bob tenant wneud cais i'w landlordiaid perthnasol a chael eu caniatâd cyn symud ymlaen i gyfnewid cartref.

Pam mae’n rhaid imi wneud cais am ganiatâd cyn cyfnewid fy llety?

Yn gyntaf, rydych yn gyfreithiol gyfrifol am eich cartref ac am dalu'r rhent yn brydlon.  Mae'n ofynnol ichi gadw at y Cytundeb Tenantiaeth ac ni chewch gyfnewid neu drosglwyddo eich Tenantiaeth heb ganiatâd y Cyngor neu'r Gymdeithas Tai.  Bydd y Cyngor/Cymdeithas Tai yn cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn os ydych yn cyfnewid eich llety heb ganiatâd.

Yn ail, cyn rhoi caniatâd i gyfnewid cartref, mae'n rhaid i'r Cyngor a'r Cymdeithasau Tai sicrhau bod y tenantiaid wedi bodloni amodau penodol sef:

• Dylai fod gan bob tenant gyfrif rhent clir.
• Dylai pob tenant symud i gartref sydd o faint cywir ar gyfer ei anghenion tai.

 A fydd ceisio Cydgyfnewid Cartref yn effeithio ar fy nghais am drosglwyddo i gartref arall?

Na fydd, ni fydd ceisio cyfnewid cartref yn effeithio ar eich cais am drosglwyddo i gartref arall.  Fodd bynnag, bydd yn gwella eich tebygrwydd o symud cartref.

Beth os nad ydw i'n flaenoriaeth o ran trosglwyddo i gartref arall? A allaf wneud cais am Gydgyfnewid Cartref o hyd?

Gallwch.  Mantais cydgyfnewid cartref yw nad yw'n dibynnu ar anghenion tai felly mae gan bob tenant gyfle i gyfnewid.

Gwybodaeth Ddefnyddiol Arall

• Dylai tenantiaid y Cyngor nodi y byddech yn ildio eich hawliau tenantiaeth ddiogel os ydych yn dymuno cyfnewid cartref â thenant cymdeithas tai.

• Cyn ichi gytuno i gyfnewid, dylech ddarllen cytundeb tenantiaeth y tenant arall yn ofalus oherwydd y byddwch yn derbyn eu tenantiaeth ac mae'n bosibl y bydd gennych wahanol hawliau a chyfrifoldebau.  Os nad ydych yn sicr ynghylch amodau eich tenantiaeth newydd, mynnwch air â'ch swyddog tai neu ceisiwch gyngor cyfreithiol.

• Mae'n hanfodol nad ydych yn symud tŷ nes y bydd y Cyngor/Cymdeithasau Tai wedi rhoi eu caniatâd ar bapur.  Bydd yn rhaid i denantiaid sy'n symud heb ganiatâd symud yn ôl eto.

• Rydym yn eich cynghori i ymweld â'r breswylfa yr ydych yn ystyried cyfnewid â hi o leiaf unwaith, yn arbennig i edrych ar gyflwr y tŷ a'i gosodion a'i ffitiadau.  Cofiwch pan ydych yn cyfnewid cartref eich bod yn derbyn y breswylfa yn y cyflwr y mae.  Bydd y Cyngor yn cyflawni atgyweiriadau yn unol â’i rwymedigaeth fel landlord yn unig.

• Ar ôl i'r cais am gydgyfnewid cartref gael ei gymeradwyo, bydd yn rhaid i'r ddau barti gytuno ar bapur eu bod yn derbyn y breswylfa yn y cyflwr a welwyd, o ddyddiad tenantiaeth i'w bennu.

• Nodwch os ydych yn cyfnewid llety â thenant cymdeithas tai, ei bod yn bosibl na fydd gennych yr hawl i brynu o dan Ddeddf Tai 1980 a dylech ofyn am eglurhad ynghylch hyn gan y gymdeithas tai.