Hawl i brynu
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 16/9/2011
Hawl i brynu 

Righttobuy

MAE Cyngor Sir Caerfyrddin eisiau clywed gan bobl sydd eisiau mynegi barn am gynlluniau Llywodraeth Cymru i newid, neu atal, yr Hawl i Brynu Tai Cyngor a’r Hawl i Gaffael ar gyfer tenantiaid sicr cymdeithasau tai.

Er mwyn gofalu fod tai cymdeithasol yn parhau i fod ar gael mewn cyfnod o bwysau anghyffredin, gall Llywodraeth Cymru roi caniatad i awdurdodau lleol unigol atal yr Hawl i Brynu yn eu hardaloedd am hyd at bum mlynedd. Gellir cyfyngu unrhyw fwriad i atal i ardaloedd penodol neu fathau o eiddo, gan ddibynnu ar yr angen am dai yn yr ardal.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin eisiau clywed barn pobl ar y mater. Gallwch nail ai ymateb yn gyffredinol, neu gallwch ateb cyfres o gwestiynau sy’n gofyn am eich barn ar faterion penodol sy’n awgrymu pwysau tai.

Os hoffech fynegi barn, cysylltwch a Sian Stephens ar 01554 742196 neu ebostiwch SStephens@sirgar.gov.uk erbyn diwedd mis Medi. Neu, gallwch gael gafael ar ragor o wybodaeth ac ymateb yn syth i Lywodraeth Cymru hyd at Hydref 31ain. Ewch i www.cymru.gov.uk/ymgynghoriadau