Ni sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r gwaith atgyweirio yn eich cartref ond chi sy'n gyfrifol am rai eitemau ac mae rhai eitemau eraill, er mai'r Cyngor sy'n gyfrifol amdanynt, y mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu am unrhyw gostau atgyweirio os bydd y difrod yn cael ei achosi'n faleisus neu drwy esgeulustod.
Gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch pwy sy'n gyfrifol am beth yn eich cytundeb tenantiaeth.
Pan fyddwch yn rhoi gwybod inni fod angen cyflawni gwaith atgyweirio, bydd y mater yn cael ei flaenoriaethu.
Mae'r lefel flaenoriaeth ar gyfer gwaith atgyweirio a chynnal a chadw fel a ganlyn:
Blaenoriaeth 1 - atgyweiriadau brys lle mae angen ymateb cyn pen 24 awr.
Blaenoriaeth 2 - atgyweiriadau brys lle mae angen ymateb cyn pen 7 niwrnod.
Blaenoriaeth 3 - atgyweiriadau nad ydynt yn rhai brys lle mae angen ymateb cyn pen 42 diwrnod.
Blaenoriaeth 4 - gwaith a gynlluniwyd sy'n gysylltiedig â Chyrraedd Safon Tai Sir Gaerfyrddin.
Gwaith y mae'n rhaid i'r Cyngor ei gyflawni yn eich tŷ.
Mae'r Cyngor yn gwirio diogelwch yr holl offer gwresogi bob blwyddyn, fel sy'n ofynnol o dan y gyfraith. Byddwn bob amser yn rhoi rhybudd ichi er mwyn inni allu trefnu mynediad.
Gwaith cynnal a chadw a gynlluniwyd
Rydym yn gwneud gwaith ar hyn o bryd i sicrhau bod ein holl stoc yn bodloni Safon Tai Sir Gaerfyrddin. Mae gwaith wedi cael ei raglennu hyd at 2014.
Eich hawl i atgyweirio
Fel tenant tŷ cyngor â thenantiaeth ddiogel, mae gennych yr hawl i gael gwaith atgyweirio wedi'i wneud yn eich cartref cyn pen amser penodol o dan y cynllun Hawl i Atgyweirio.
Mae'r cynllun yn sicrhau bod gwaith, a allai effeithio ar eich diogelwch, yn cael ei gwblhau’n gyflym ac yn hwylus.
Os nad yw'r contractwr cyntaf yn gwneud y gwaith atgyweirio mewn pryd, dylech ffonio'r Cyngor a gofyn am i ail gontractwr ddod i gwblhau'r gwaith. Os nad yw'r ail gontractwr yn cwblhau'r gwaith mewn pryd, gallech fod yn gymwys i gael eich digolledu.
Mae'n bosibl bod rheswm da pam nad oedd y contractwr yn gallu cwblhau'r gwaith atgyweirio ar amser, megis os nad oeddech gartref i gadw'r apwyntiad. Mewn achosion o'r fath, ni fydd yn rhaid i'r Cyngor eich digolledu.
Newidiadau / gwelliannau i'ch cartref
Mae'n rhaid ichi siarad â'ch swyddog tai os ydych yn bwriadu gwneud newidiadau i'ch cartref. Bydd yn dweud wrthych yn ysgrifenedig p’un a oes modd i'r newidiadau hynny fynd rhagddynt ai peidio.
Mae hyn yn bwysig iawn gan y gellid codi tâl arnoch am newidiadau pan fyddwch yn gadael yr eiddo os nad oedd gennych ganiatâd i gyflawni'r gwelliannau.
Digolledu ar gyfer gwelliannau
Gallech gael eich digolledu ar gyfer gwelliannau awdurdodedig yr ydych wedi'u gwneud. Dylech geisio cael gwybod pa welliannau sy'n gymwys o ran digolledu.