English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Atgyweiriadau ar gyfer Tenantiaid Preifat  

Os ydych yn rhentu eich tŷ ac mae angen cyflawni gwaith atgyweirio ynddo, bydd angen ichi drafod hyn gyda'ch landlord. Oherwydd bod hawliau a chyfrifoldebau yn wahanol ar gyfer landlordiaid preifat a landlordiaid cymdeithasol, dylai'r adrannau isod eich helpu i gael gwybod y ffordd orau o gwblhau'r gwaith atgyweirio.

Os ydych yn denant preifat ac:

  • rydych yn rhannu eich llety gyda'ch landlord, neu 
  • gwnaethoch chi symud i mewn i'ch eiddo ar ôl 28ain Chwefror 1997 

bydd gennych hawliau cyfyngedig i aros yn eich cartref. Gallai hyn greu sefyllfa anodd ichi os ydych yn tynnu'n groes i'ch landlord o ran ei rwymedigaethau atygweirio.

Os nad ydych yn sicr am eich hawliau fel tenant, dylech bob amser gael cyngor gennym ni. Byddwn yn rhoi gwybod ichi beth yw eich hawliau.
Isod, nodir rhai cwestiynau cyffredin a allai eich helpu.

Mae angen cyflawni gwaith atgyweirio yn fy llety ond mae fy landlord yn gwrthod gwrando arnaf.

Mae landlordiaid yn gyfrifol am sicrhau bod llety'n ddiogel ar gyfer eu tenantiaid. Os nad yw'r cyfrifoldebau hyn yn cael eu harddel, gall un o Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yn y Tîm Gwella Cartrefi ymweld â'r eiddo i werthuso'r problemau. Maent yn gallu mynnu bod gwaith hanfodol yn cael ei gyflawni.

Mae fy landlord yn bygwth fy nhroi allan o'm cartref heb reswm penodol. Oes hawl iddo wneud hyn?

Fel arfer, mae tenantiaid yn byw mewn eiddo ar sail tenantiaeth ffurfiol sy'n gosod amodau ar y tenant ac ar y landlord. Gall unrhyw achos o dorri amod arwain yn y pendraw at droi tenant allan o'r tŷ. Fodd bynnag, mae proses ffurfiol y mae'n rhaid i'r landlord ei dilyn.

Mae fy landlord wedi newid y cloeon ac wedi rhoi fy eiddo y tu allan.

Er mwyn troi tenant allan, mae'n rhaid i landlord ddilyn proses ffurfiol benodol. Yn gyfreithlon, ni chaiff newid cloeon a symud eiddo oni bai ei fod yn cael caniatâd gan y llysoedd. Bydd Swyddog Iechyd yr Amgylchedd o'r Tîm Gwella Cartrefi yn ymchwilio i unrhyw achosion o droi tenant allan yn anghyfreithlon a gellir erlyn y landlord am aflonyddwch.

Mae'r fflat/ystafell rwy'n byw ynddi mewn adeilad mawr lle mae llawer o bobl eraill yn byw. Rwy'n pryderu am fy niogelwch os bydd tân.

Mae deddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i ddiogelwch rhag tân mewn eiddo ar rent. Mae hefyd yn debygol y dylai'r eiddo gael ei drwyddedu.
Bydd Swyddog Iechyd yr Amgylchedd o'r Tîm Gwella Cartrefi yn ymchwilio i unrhyw faterion o'r fath i sicrhau bod yr eiddo'n bodloni'r safon ofynnol

 

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 24/2/2010