Os ydych yn denant tŷ Cyngor, mae'n bosibl bod gennych yr hawl i brynu eich cartref, p'un a yw hwnnw'n dŷ neu'n fflat.
Dau o'r prif ofynion yw:
- mai chi yw tenant diogel cyfreithiol yr eiddo; a'ch
- bod yn denant ers o leiaf ddwy flynedd, neu ers pum mlynedd os gwnaethoch gais am yr Hawl i Brynu ar ôl 18fed Ionawr 2005, i'r cyngor hwn, cyngor arall neu landlord 'Hawl i Brynu' arall
Ni allwch brynu eich cartref:
- os yw'n rhan o 'gynllun tai gwarchod' ar gyfer yr henoed neu bobl anabl;
- os yw'n breswylfa sy'n arbennig o addas ar gyfer yr henoed ac yn cael ei gosod i rywun oedrannus;
- os yw'n dŷ i bobl ag anableddau corfforol sydd wedi'i adeiladu'n bwrpasol neu os yw wedi cael ei addasu'n sylweddol gyda chyfleusterau cyffredin y gallwch eu defnyddio; neu
- os ydych yn gweithio i'r cyngor ac mae eich cartref yn rhan o'ch swydd
A gaiff rhywun arall brynu gyda mi?
Caiff unrhyw un sy'n gyd-denant brynu gyda chi. Caiff aelodau eraill o'ch teulu brynu gyda chi hefyd ond rhaid eu bod wedi byw gyda chi am y 12 mis diwethaf a rhaid mai hwn yw eu hunig neu eu prif gartref.
Faint byddaf yn gorfod ei dalu?
Bydd eich tŷ yn cael ei brisio yn ôl ei werth presennol ar y farchnad agored. Os ydych wedi cyflawni eich gwelliannau eich hun, bydd gwerth y rhain yn cael ei ddidynnu.
Byddwch wedyn yn cael gostyngiad ar y gwerth ar y farchnad ac mae'r gostyngiad hwn yn dibynnu ar y cyfnod yr ydych wedi bod yn denant i'r cyngor hwn neu unrhyw gyngor arall neu landlord 'Hawl i Brynu' arall, hyd yn oed os oes bylchau rhwng y tenantiaethau.
Mae'r gostyngiad hwn yn wahanol ar gyfer tai a fflatiau neu maisonettes. Ar gyfer tai, ar ôl tenantiaeth o 2 flynedd, y gostyngiad yw 32% gydag 1% yn ychwanegol am bob blwyddyn ychwanegol hyd at gyfanswm o 60%. Ar gyfer fflatiau, y gostyngiad yw 44% ar ôl tenantiaeth o 2 flynedd gyda 2% yn ychwanegol am bob blwyddyn ychwanegol hyd at gyfanswm o 70%.
Fodd bynnag, mae'r gostyngiad ar gyfer yr holl dai a fflatiau wedi'i gyfyngu i £16,000.
A oes unrhyw gostau eraill os ydw i'n byw mewn fflat?
Os ydych yn prynu fflat byddwch yn prynu prydles yr eiddo. Nid ydych yn berchen ar y tir na'r adeilad ond rydych wedi prynu'r hawl i fyw yn eich cartref am gyfnod penodedig. Bydd costau ychwanegol a bydd yn rhaid ichi dalu tâl gwasanaeth blynyddol sy'n cynnwys gwaith cynnal a chadw i strwythur a thu allan y bloc o fflatiau lle rydych yn byw, a chyfrannu at y premiwm yswiriant adeiladau.
Pa gostau sy’n gysylltiedig â phrynu fy nghartref?
Pan ydych yn prynu eiddo mae'n rhaid ichi dalu ffïoedd y Gofrestrfa Tir, ffïoedd cyfreithwyr, ffïoedd syrfewyr, ffïoedd trefnu morgais, ffïoedd prisio a'r morgais ei hun.
Pa atgyweiriadau fydd yn cael eu cyflawni os ydw i'n gwneud cais i brynu fy nghartref?
Ar ôl ichi wneud cais i brynu eich cartref, dim ond rhai atgyweiriadau penodol fydd yn cael eu cyflawni cyn ichi ei brynu. Ni fydd rhaglenni gwella megis Safon Tai Sir Gaerfyrddin a gosod ffenestri UPVC newydd yn cael eu cyflawni yn eich cartref.
A gaf werthu'r eiddo'n nes ymlaen?
Cewch werthu'r eiddo pryd bynnag y dymunwch. Fodd bynnag, os gwnaethoch gais am Hawl i Brynu cyn 18fed Ionawr 2005 bydd yn rhaid ichi ad-dalu canran o'r gostyngiad a gawsoch os ydych yn gwerthu'r eiddo cyn pen 3 blynedd ar ôl ei brynu. Os gwnaethoch gais am Hawl i Brynu ar 18fed Ionawr 2005 neu ar ôl hynny bydd yn rhaid ichi ad-dalu canran o'r gostyngiad a gawsoch os ydych yn gwerthu'r eiddo cyn pen 5 mlynedd ar ôl ei brynu.
Sut gallaf wneud cais?
Cysylltwch â'ch swyddfa dai ranbarthol leol neu â'r Swyddog Perchentyaeth drwy ffonio 01544 742196 gan ofyn am y ffurflen gais 'Hawl i Brynu' RTB1. Dylech lenwi'r ffurflen gais hon yn ofalus, cadw copi ohoni a’i hanfon i'r swyddfa dai ranbarthol yn Llanelli.
Bydd y Cyngor yn ymchwilio i weld a oes gennych yr hawl i brynu ac yn ymateb ichi cyn pen 4 wythnos neu cyn pen 8 wythnos os ydych yn denant i'r landlord hwn ers llai na 2 flynedd.
Bydd yr eiddo'n cael ei archwilio wedyn i asesu beth sy'n cael ei gynnwys wrth ei werthu ac i asesu ei werth.
Byddwch yn cael eich hysbysu wedyn (drwy dderbyn Hysbysiad Adran 125) am y pris y mae'n rhaid ichi ei dalu, gan gynnwys unrhyw ostyngiad ac unrhyw delerau ac amodau sy’n gysylltiedig â gwerthu'r eiddo e.e. tâl gwasanaeth os yw'n cael ei brydlesu.
Ar ôl hyn, dylech drefnu i gyfreithiwr oruchwylio'r gwaith o werthu'r eiddo ac i syrfëwr wneud arolwg o'ch cartref i roi gwybod ichi am ei gyflwr strwythurol a'i werth. Yn ogystal, bydd angen ichi drefnu morgais. Cofiwch yn ôl pob tebyg y bydd angen ichi ddarparu rhywfaint o'r arian eich hun fel blaendal.
Cwblhau gwerthu'r eiddo
Ar ôl i bopeth gael ei drefnu a phan fyddwch yn barod i fynd ati i brynu'r eiddo, dylech roi gwybod i'ch cyfreithiwr a'r Cyngor. Wedyn bydd eich cyfreithiwr yn trefnu ichi gwblhau'r dogfennau cyfreithiol a thalu am yr eiddo. Mae’n gallu cymryd sawl wythnos i gwblhau hyn.
Ar ôl ichi brynu eich cartref, chi fydd yn gyfrifol am y canlynol:
- yr holl waith cynnal a chadw yn eich cartref
- talu eich morgais; a
- threfnu yswiriant adeiladau i sicrhau bod gwerth llawn eich cartref yn cael ei ddiogelu yn erbyn tân, llifogydd neu ddamweiniau eraill.