Mae Ardal Adnewyddu yn fodd o gydlynu gwasanaethau cyllido mewn ardal ddaearyddol benodol lle cydnabyddir bod yno broblemau tai, cymdeithasol ac amgylcheddol.
Nod Ardaloedd Adnewyddu yw adfywio ardal yn gynhwysfawr, gan ddod â gwelliannau i dai, siopau, safleoedd masnachol eraill, yr amgylchedd lleol a'r seilwaith.
Mae effaith gadarnhaol ar iechyd a lles yn darged hanfodol a manteisir ar bob cyfle i ddefnyddio'r gymuned. I wneud hyn, mae holl adrannau'r Awdurdod Lleol yn gweithio mewn partneriaeth â'r sector preifat, cyrff cyhoeddus eraill ac yn bwysicach na dim, y gymuned leol er mwyn datblygu strategaethau cydlynol i fynd i'r afael â'r problemau a nodwyd gan y bobl sy'n byw a gweithio yn yr ardal.
Mae'r Ardaloedd Adnewyddu wedi bod yn dra llwyddiannus yng Nghymru o ran ymdrin â phroblemau amddifadedd mewn ardaloedd penodol, drwy greu cymunedau sydd wir yn hyderus a chynaliadwy.
Mae Adnewyddu Ardaloedd yn strategaeth gwella a fydd yn para am 10 mlynedd a gellir crynhoi ei hamcanion fel a ganlyn:
- Hoelio sylw ar wella’r ardal ac ymrwymo i hynny
- Darparu'r modd o gyflawni gwelliannau a sicrhau buddsoddi
- Dangos ymrwymiad yr Awdurdod i'r ardal a'i thrigolion
- Galluogi datblygu cymunedol ac economaidd
- Gwella cyflwr tai drwy sicrhau nad yw tai'n anaddas neu mewn cyflwr gwael. Bydd hyn yn rhan allweddol o'r broses adnewyddu. Bydd hefyd yn ategu'r nod o gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru yn yr ardal erbyn 2012.
- Annog buddsoddi gan y sector preifat yn ogystal â buddsoddi cyhoeddus er mwyn gwella'r amodau amgylcheddol a'r gymuned yn gyffredinol.
- Annog partneriaethau rhwng yr Awdurdod, y Bwrdd Iechyd Lleol, Cymunedau yn Gyntaf, Amcan Un, Awdurdod Datblygu Cymru, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, Buddsoddwyr Preifat a thrigolion lleol er mwyn gwneud y defnydd gorau o fuddsoddiadau a gwireddu potensial llawn yr ardal.
- Gwarchod dyfodol yr ardal a chaniatáu i'r gymuned leol lunio dyfodol yr ardal.
Mae dwy Ardal Adnewyddu wedi cael eu datgan yng Nghyngor Sir Caerfyrddin ar hyn o bryd:
- Brynaman Uchaf sef ardal a gafodd ei datgan ar 22ain Mawrth 2004 (rhaglen ddeng mlynedd)
- Pen Isaf Cwm Gwendraeth sef ardal a gafodd ei datgan ar 14eg Tachwedd 2005 (rhaglen ddeng mlynedd) – mae hon yn cynnwys Wardiau Cydweli a Thrimsaran.
Os ydych am gael copi o'r adroddiad datgan, cysylltwch â'r Tîm Adnewyddu Ardal.
Pa fath o waith fydd yn cael ei wneud?
Bydd gwaith Atgyweirio Grŵp / Atgyweirio Bloc yn cael ei wneud i adnewyddu adeiladwaith allanol rhai strydoedd yn yr ardal a ddynodwyd yn strydoedd Atgyweirio Grŵp yn yr adroddiad datgan. Gan amlaf, byddai hyn yn golygu adnewyddu gorchuddion toeau, ail-rendro, gosod ffenestri a drysau uPVC ac adnewyddu wynebfyrddau, bondoeau a chyfarpar dal glaw.
Ym Mrynaman Uchaf pennwyd bod y strydoedd canlynol yn bodloni'r meini prawf Atgyweirio Grŵp: Stryd y Capel, Heol y Cwar, Mountain Road, Heol Newydd, Heol yr Orsaf, Stryd y Neuadd, Ffordd y Coroni, Coedlan y Bryn a Heol Bryn Bach.
Ym Mhen Isaf Cwm Gwendraeth, mae'r strydoedd canlynol wedi eu nodi: yn Nhrimsaran, strydoedd y Gerddi, Heol Morlais ac 8–22 Heol Llanelli, ac yng Nghydweli, strydoedd Hillfield Villas, Gwendraeth Town, Ferry Road, Stryd y Bont, Morfa Lane, Heol yr Abaty.
Mae eiddo nad ydyw mewn Strydoedd Grŵp dynodedig yn gymwys i gael cymorth dan Bolisi Adnewyddu'r Awdurdod. Gallwch wneud cais un ai drwy gysylltu â'n canolfan alwadau drwy ffonio 01267 234567 neu drwy lenwi'r ffurflen gais uchod.
A fydd yn rhaid imi gyfrannu at dalu am waith a wneir ar fy nghartref?
Os ydych yn gymwys i gael gwaith wedi ei wneud ar eich cartref, bydd yn ofynnol ichi gyfrannu tuag at gost y gwaith a wneir yn eich eiddo dan gynllun Atgyweirio Grŵp neu Atgyweirio Bloc. Yr uchafswm a fydd yn daladwy gan berchennog tŷ sy'n cymryd rhan yn y cynllun yw 25% o gyfanswm gwerth y gwaith, ac yn dibynnu ar eich sefyllfa ariannol mae'n bosibl na fydd yn rhaid ichi gyfrannu dim byd o gwbl. Bydd landlordiaid yn talu 25% tuag at gost y gwaith. Bydd eiddo nad ydynt mewn Strydoedd Grŵp dynodedig yn cael cynnig cymorth yn unol â'r Polisi Adnewyddu.