Yn 2009 /10 cafwyd £50,0000 gan y Cynulliad i gynorthwyo prynwyr tai am y tro cyntaf, o fewn yr Ardaloedd Adnewyddu, i wneud eu cartrefi yn fwy effeithiol o ran defnydd egni. O Ebrill 1af 2010 ymlaen mae’r cymorth wedi eu hehangi i bob ardal o fewn y Sir.
Gall y cymorth fynd at insiwleiddio llofftydd a waliau ceudod, ffenestri dwbl, systemau gwresogi effeithlon, insiwleiddio wal solet ac egni adnewyddadwy. Yr uchafswm am bob eiddo yw £5000.
I fod yn gymwys mae’n rhaid:
• i ymgeiswyr fod yn brynwyr tai am y tro cyntaf o dai sy’n bodoli, nid rhai newydd eu codi ( nid y nhw yw perchen cyntaf yr eiddo). Yn amlwg y mwyaf newydd yw’r eiddo yn fwy effeithiol y bydd o ran defnydd egni, felly y bydd yn llai tebygol o fod yn gymwys i gael cymorth.
• i ymgeiswyr fyw yn y tŷ fel eu hunig neu brif gartref.
• fod ymgeiswyr wedi gorffen y broses o brynu’r tŷ wedi’r 27ain o Fehefin 2007.
• ni ellir cynnig y gefnogaeth i ymgeiswyr sydd wedi prynu tai dan y cynllun Hawl i Brynu, Hawl Diogel i Brynu neu Hawl i Gael, neu ymgeiswyr sy’n gymwys i dderbyn cymorth drwy’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (HEES).
• fe fydd cymhwyster y gwaith yn cael ei benderfynu mewn archwiliad gan swyddog o’r tîm Adnewyddu Tai.
• Fe fydd y cymorth yn cael ei rhoi ar egwyddor “y cyntaf i’r felin ......”
Os oes diddordeb gennych i gynnig am y cymorth cysylltwch â 01267 / 234567 a gofynnwch am ffurflen Gais am Gymorth i Brynwyr Tai am y Tro Cyntaf.
Yn y cyfamser os oes gennych unrhyw gwestiwn ffoniwch 01269 / 598228 neu 01269 / 598249 neu e-bostiwch clthomas@sirgar.gov.uk