English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Camau Gorfodi Cyffredinol  

 

Mae gan Awdurdodau Lleol ddyletswyddau a phwerau statudol i gymryd camau gorfodi er mwyn ymdrin ag eiddo sy'n cynnwys peryglon a glustnodir yn ôl y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS) a nodir o dan Ran 1 o Ddeddf Tai 2004.

Cyfarwyddyd HHSRS

HHSRS yw'r dull a ddefnyddir gan awdurdodau lleol i asesu cyflwr tai. Mae Deddf Tai 2004 Rhan 1 yn sefydlu'r HHSRS fel y maen prawf asesu statudol ar gyfer tai ac mae'n seiliedig ar yr egwyddor ganlynol:

  • Dylai unrhyw eiddo preswyl ddarparu amgylchedd diogel ac iach ar gyfer unrhyw breswylydd ac ymwelydd posibl.

Mae'r system yn berthnasol i bob preswylfa gan gynnwys y rhai lle mae'r perchennog yn byw ynddynt, y rhai sy'n cael eu rhentu'n breifat a phreswylfeydd y Cyngor a Chymdeithasau Tai. Mae'n ofynnol i Awdurdodau Lleol adolygu cyflwr tai sy'n eiddo preifat a hefyd mae'n ddyletswydd arnynt i arolygu eiddo os oes ganddynt reswm i gredu fod hyn yn briodol er mwyn gweld a oes peryglon iechyd a diogelwch yno.

Nid yw'r HHSRS yn safon y mae'n rhaid i'r eiddo ei bodloni, fel y digwyddai gyda'r safon ffitrwydd blaenorol, ond system ydyw sy'n asesu pa mor debygol y gallai niwed ddigwydd o ganlyniad i unrhyw ddiffyg a allai fod yn gysylltiedig â phreswylfa. Ystyr diffyg yw unrhyw amrywiad o'r safon ddelfrydol a gallai hynny ddeillio o nam sy'n rhan annatod o'r dyluniad neu'r cynhyrchu, neu oherwydd cyflwr gwael, dirywiad neu ddiffyg cynnal a chadw.

Ni ddylai peryglon diangen neu rai y gellir eu hosgoi fod yn bresennol. Mae'n cydnabod, er hynny, y gallai rhai peryglon fod yn bresennol ac mae'n darparu dull i benderfynu a yw'r risg yn dderbyniol ai peidio. Wrth gynnal yr asesiad risg, bydd Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yn penderfynu yn achos pob perygl beth yw:

  • Y tebygolrwydd, dros y deuddeg mis nesaf, y bydd rhywbeth yn digwydd e.e. rhywun yn syrthio lawr y grisiau neu'n cael sioc drydanol, ac ati, a allai arwain at achosi niwed i rywun sy'n perthyn i'r grŵp agored i niwed; ac 
  • Amrywiaeth y canlyniadau posibl a allai ddeillio o ddigwyddiadau o'r fath e.e. marwolaeth, niwed difrifol ac ati

Mae 29 o beryglon yn gysylltiedig â'r system.

Pan fydd asesiad yn cael ei wneud, mae'r preswylwyr presennol yn cael eu hanwybyddu ac mae'r asesiad yn cael ei seilio ar effaith debygol y perygl ar y grŵp oedran perthnasol sy'n agored i niwed. Yn achos rhai peryglon nid oes grŵp perthnasol, ond yn achos llawer o beryglon y grŵp perthnasol yw naill ai plant ifanc neu'r henoed.

Gorfodi'r HHSRS

Perygl Categori 1 yw perygl sy'n peri bygythiad difrifol i iechyd neu ddiogelwch. Os yw awdurdod tai awdurdod lleol yn ystyried bod perygl Categori 1 yn bodoli ar eiddo preswyl, yna mae'n rhaid iddynt gymryd y camau gorfodi priodol mewn perthynas â'r perygl hwnnw.

Perygl Categori 2 yw perygl sy'n peri bygythiad llai difrifol i iechyd neu ddiogelwch a gall awdurdod lleol gymryd camau gorfodi priodol i leihau'r perygl i lefel dderbyniol. Bydd yr amgylchiadau lle bydd awdurdodau lleol yn cymryd camau ynghylch perygl Categori 2 yn amrywio a bydd yn dibynnu ar bolisi gorfodi awdurdodau lleol unigol.

Er hynny, rhaid i'r awdurdod gymryd i ystyriaeth y cyfarwyddyd gorfodi statudol a'r opsiynau sydd ar gael gan gynnwys:

  • Cyflwyno hysbysiad gwella sy’n ei gwneud yn ofynnol i gynnal gwaith atgyweirio
  • Cyflwyno gorchymyn gwahardd, sy’n cau’r eiddo cyfan neu ran ohono neu sy’n cyfyngu ar nifer y rhai a ganiateir i fyw yno
  • Atal yr hysbysiadau hyn am gyfnod
  • Gweithredu ar frys eu hunain
  • Cyflwyno hysbysiad ymwybyddiaeth o berygl, sy'n rhoi gwybod am y perygl yn unig, ond nad yw'n mynnu bod gwaith yn cael ei wneud
  • Dymchwel
  • Dynodi'r ardal yn ardal glirio

Enghreifftiau o sut mae'r HHSRS yn effeithio arnoch chi.

Pam byddai Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yn ymweld ag eiddo a beth fyddai'r amserlen.

Mae amryw o resymau pam y byddai swyddog yn dymuno ymweld ag eiddo.

Gall hyn fod: -

  • O ganlyniad i dderbyn cwyn
  • Cais i archwilio'r eiddo
  • Ymweliad arferol fel rhan o raglen archwilio Tai Aml-breswyliaeth
  • Ail-archwiliad arferol o Dai Aml-breswyliaeth (mae eiddo'n cael ei ail-archwilio o bryd i'w gilydd).

Os nad yw'r safonau'n cael eu bodloni, gellir cyflwyno hysbysiad statudol i'r person perthnasol. Mae hwn yn rhoi manylion am yr hyn sydd o'i le ar yr eiddo a'r camau sy'n rhaid eu cymryd er mwyn cydymffurfio â'r safonau. Hefyd fel arfer mae'n pennu'r dyddiadau erbyn pryd y bydd rhaid cychwyn a chwblhau'r gwaith.

Beth os nad yw'r Gwaith yn cael ei gwblhau?

Mae'n rhaid cwblhau'r gwaith a ddynodir mewn hysbysiad ffurfiol erbyn yr amser a roddir. Gall y Cyngor ganiatáu mwy o amser mewn achosion eithriadol. Os nad yw'r gwaith wedi'i gwblhau erbyn y dyddiad penodedig, yna gall y Cyngor wneud y gwaith a chodi tâl ar yr un a dderbyniodd yr hysbysiad am gost y gwaith, y costau gweinyddol a'r llog. Ar ben hynny, gall y Cyngor ddod ag achos troseddol gerbron am fethu â chydymffurfio. Gall erlyniad arwain at ddirwyon mawr yn ogystal â dirwyon dyddiol am bob diwrnod y bydd y drosedd yn parhau.

Archwiliad sy'n deillio o Gŵyn

  • Mae cwynion sy'n ymwneud â Thai Aml-breswyliaeth yn dod fel arfer yn uniongyrchol o'r tenantiaid sy'n byw yno neu deulu/ffrindiau tenantiaid. Yn achlysurol bydd eiddo'n cael ei gyfeirio at dîm y gwasanaethau preswyl yn yr Adain Tai (trwy gyfeiriadau tai), gweithwyr cymdeithasol neu swyddogion iechyd eraill sy'n ymweld â’r eiddo ac sy'n pryderu am y sefyllfa.
  • Fel arfer bydd swyddogion yn cael gwybod am y gŵyn/ymholiad trwy eu dyddiadur cyfrifiadurol ar APP. Bydd y swyddog ymchwilio ym mhob achos yn ymateb i'r gŵyn o fewn 5 diwrnod gwaith, naill ai dros y ffôn, drwy ymweld â’r eiddo neu'n ysgrifenedig.
  • Cynhelir archwiliad llawn o'r eiddo gan roi ystyriaeth i Ddeddf Tai 1985. Yn ogystal, bydd manylion perchenogaeth (os yw'n hysbys), niferoedd ac enwau'r preswylwyr, gan gynnwys natur y breswyliaeth yn cael eu coladu. Bydd yr achwynydd yn cael gwybod beth fydd y camau y bwriedir eu cymryd
  • Os yw'r swyddog o'r farn bod yr eiddo'n cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth berthnasol yna ni fydd unrhyw gamau'n cael eu cymryd. Os nodir trosedd yna bydd camau'n cael eu cymryd yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol.
  • Os na all y swyddog ymchwilio gael mynediad i'r eiddo neu ran o'r eiddo, yna dylid dilyn y drefn ganlynol:-
    1) Anfon llythyr apwyntiad at y preswylydd yn trefnu dyddiad ac amser.
    2) Os nad yw'r swyddog yn gallu cael mynediad eto, yna dylid anfon llythyr arall yn gofyn i'r preswylydd gysylltu â'r swyddfa o fewn 7 diwrnod ac amlinellu ein hawdurdod o ran cyflwyno Rhybudd o Fwriad i fynd i mewn.
    3) Os na cheir ateb na mynediad yna gellir cyflwyno Rhybudd o Fwriad i fynd i mewn.
  • Rhaid ysgrifennu adroddiad archwilio llawn a fydd yn cynnwys cynllun tân ac allwedd ac amserlen gwaith yn ymwneud â'r dull dianc rhag tân yn ogystal â’r atgyweirio.
  • Cysylltu â'r perchennog
  • Cyflwyno rhybuddion o'r camau y gellid eu cymryd
  • Os na cheir ateb o fewn 14 diwrnod dylid cyflwyno rhybuddion statudol
  • Os cydymffurfir â'r rhybudd o fewn y cyfnod penodedig, ni fydd angen cymryd unrhyw gamau pellach. Os na chydymffurfir â'r rhybudd yna gall yr awdurdod ddod ag achos gerbron, ymgymryd â gwaith angenrheidiol yn niffyg cydymffurfio, neu'r ddau.

Diogelwch Nwy

Mae'n ddyletswydd cael tystysgrif diogelwch offer nwy yn gynnar gan osodwr cofrestredig CORGI. Mae'n ofynnol i landlord gadw cofnod o'r archwiliadau diogelwch a rhaid dangos y rhain i'r tenantiaid os gofynnir amdanynt. Rhaid i unrhyw waith ar offer nwy gael ei wneud gan gontractwr cofrestredig CORGI, a fydd yn ardystio bod yr offer yn ddiogel.

I gael mwy o wybodaeth ewch i wefan HSE

Diogelwch Trydanol

Yn debyg i'r wybodaeth uchod, argymhellir eich bod yn cael tystysgrif diogelwch trydanol bob blwyddyn ar gyfer unrhyw larymau mwg neu systemau goleuadau mewn argyfwng. Os gwneir unrhyw waith trydanol, byddai'n ddoeth ichi gael tystysgrif cwblhau gan y contractwr yn unol â'r Rheoliadau Weirio. Gofynnir am y dystysgrif hon mewn unrhyw hysbysiad lle mae angen gwneud gwaith ar systemau trydanol.

I gael mwy o wybodaeth ewch i wefan HSE

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 05/3/2010
 
Manylion Cysyllt
 

Swyddog Iechyd yr Amgylchedd

Ffon o fewn oriau gwasanaeth: 01554 742109

E-bost: Tai@sirgar.gov.uk

Negeseuon testun: 07766 406506
Gwasanaeth Minicom: 01267 223867